Events
Ar Geinioga' – Gan Manon Wyn Williams
Sadwrn 06/06/26
1884. Gwireddwyd dymuniad Owain Glyndŵr bum can mlynedd ynghynt i sefydlu dwy Brifysgol yng Nghymru – un yn y de a’r llall yn y gogledd – ac agorwyd drysau Coleg Prifysgol Gogledd Cymru am y tro cyntaf yn hen westy’r Penrhyn Arms ym Mangor.
Wrth y llyw roedd Gwyddel ifanc saith ar hugain oed. Fe ymroes ei fywyd i waith y brifysgol am dros ddeugain mlynedd gan gofleidio’r bywyd a’r diwylliant Cymreig o’i amgylch. Ef, yn anad un dyn arall, oedd yn gyfrifol am dwf a datblygiad y sefydliad yn ogystal â’i arwain drwy sawl storm.
Harry Reichel, Prifathro cyntaf Coleg y Gogledd, sy’n adrodd hanes sefydlu’r brifysgol a hynny ar geiniogau prin chwarelwyr a ffermwyr yr ardal.
Actor – Llion Williams
Cyfarwyddo – Betsan Llwyd
Tickets: £12 Gaynor Morgan Rees – 01745 812 349 neu yn Siop Clwyd