Tickets : https://www.ticketsource.co.uk/academi-celfyddydau-indigo-perfroming-arts-academy/pinocchio/e-rgmoxq
Ymunwch â ni ar gyfer addasiad bendigedig o Pinocchio, drama gerddorol wedi’i haddasu o’r stori wreiddiol gan Adam Tranmer, a cherddoriaeth gan Tim Heeley y cynhyrchiad calonogol hwn yn cael ei gyflwyno gan blant Iau INDIGO (Academi Celfyddydau Indigo Performing Arts Academy), academi gynhwysol a dwyieithog wedi’i lleoli ym Mhwllglas, Rhuthun. Wedi’i berfformio yn Saesneg, mae’r stori hon yn addo swyno cynulleidfaoedd o bob oed. Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i fwynhau chwedl dragwyddol Pinocchio mewn perfformiad llawn cerddoriaeth, dychymyg a llawenydd!
Diodydd pop, fferins a chreision ar gael, felly cofiwch ddod ag arian mân i fanteisio ar y lluniaeth.